Gwneud diogelu’n haws i ysgolion Caerdydd

20 Hydref 2026

Mae cadw plant yn ddiogel yn brif flaenoriaeth i’n hysgolion. Er mwyn cefnogi hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio gydag ysgolion a gweithwyr proffesiynol diogelu i greu Offeryn Hunanasesu Diogelu digidol newydd. 

Mae’r offeryn ar-lein yn disodli ffurflenni a thaenlenni papur gydag un system syml, ddiogel. Mae’n helpu ysgolion i adolygu eu trefniadau diogelu a chwblhau asesiadau yn gyflymach ac yn gyson.

Gweithio gyda’n gilydd

Datblygwyd yr offeryn gan:

  • Gwasanaethau Addysg,
  • Gwasanaethau Plant,
  • cynrychiolwyr ysgolion, a
  • thimau Digidol a SharePoint y Cyngor.

Helpodd ysgolion i lunio a phrofi’r system i wneud yn siŵr ei bod yn hawdd i’w defnyddio ac yn diwallu eu hanghenion.

Manteision i ysgolion

Mae’r system newydd yn darparu:

  • Platfform ar-lein diogel
  • Canllawiau ac awgrymiadau clir
  • Dull cyson ar draws ysgolion Caerdydd
  • Llai o waith papur a gweinyddiaeth
  • Cofnodi ac adolygu gwybodaeth diogelu yn haws

Mae’r holl wybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel gan Gyngor Caerdydd, gyda mynediad wedi’i gyfyngu i ddefnyddwyr awdurdodedig a rheolaethau diogelu data priodol ar waith.

Gwell gwybodaeth, gwell cymorth a gwneud penderfyniadau

Mae’r offeryn hefyd yn rhoi darlun cliriach i Gyngor Caerdydd o ddiogelu ar draws ysgolion. Mae hyn yn helpu timau i nodi tueddiadau, rhannu arfer da, adnabod meysydd lle gallai fod angen cymorth, a chynhyrchu adroddiadau’n fwy effeithlon..

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r Offeryn Hunanasesu Diogelu yn enghraifft wych o sut y gall technoleg ddigidol wella gwasanaethau. Mae’n gwneud y broses yn haws i ysgolion, yn darparu gwell gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, ac yn cefnogi ymrwymiad Cyngor Caerdydd i wasanaethau digidol modern, diogel.