Defnyddio awtomeiddio i reoli gwiriadau rhent blynyddol

30 Mehefin 2026

Bob mis Ebrill, mae rhenti tai yn cynyddu. Ar gyfer preswylwyr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol gyda chymorth tuag at gostau tai, mae’n bwysig bod y swm rhent newydd yn cael ei gadarnhau’n gyflym fel bod taliadau’n aros yn gywir ac nad oes oedi arnyn nhw.

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Cyngor gwblhau tua 12,000 o wiriadau rhent mewn dim ond chwe wythnos. Os yw’r gwaith hwn yn cymryd rhy hir, gall oedi’r cadarnhad i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac achosi pryder diangen i breswylwyr.

Beth sydd wedi newid i gwsmeriaid

Rydyn ni bellach yn defnyddio Awtomeiddio Prosesau Robotig (APR) i gwblhau’r rhan fwyaf o wiriadau rhent yn gyflym ac yn gywir. Mae hyn yn golygu:

  • Mae newidiadau rhent yn cael eu cadarnhau’n gyflymach
  • Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn parhau i fod yn gywir
  • Mae preswylwyr yn llai tebygol o brofi oedi neu amhariad
  • Does dim angen cymaint o ymholiadau dilynol

Adeiladu ar ddull llwyddiannus

2026 yw’r ail flwyddyn i’r broses awtomataidd hon gael ei defnyddio, gan ganiatáu i ragor o wiriadau gael eu cwblhau’n awtomatig ac yn gynharach yn y cyfnod y mae rhenti’n cael eu cynyddu.

Oherwydd nad oes angen i staff brosesu’r rhan fwyaf o wiriadau â llaw, mae ganddyn nhw fwy o amser felly i ymateb i ymholiadau tai eraill, gan helpu preswylwyr i gael cymorth yn gyflymach pan fydd ei angen arnyn nhw.

Sut mae hyn yn cefnogi ein Strategaeth Ddigidol

Mae awtomeiddio yn helpu i sicrhau bod preswylwyr yn:

  • Derbyn y taliadau iawn ar yr adeg iawn
  • Profi llai o oedi yn ystod cyfnodau y mae rhenti’n newid
  • Cael ymatebion cyflymach i ymholiadau eraill

Mae’r prosiect hwn yn lleihau gwaith ailadroddus i staff, gan eu rhyddhau i ganolbwyntio ar dasgau mwy cymhleth. Does dim angen dysgu sut i ddefnyddio unrhyw systemau newydd, dim ond bod llai o brosesu â llaw. Mae’r gwaith hefyd wedi ein helpu i archwilio sut y gall awtomeiddio weithredu’n ddiogel ochr yn ochr â dilysu aml-ffactor, gan gefnogi prosiectau yn y dyfodol.