• Diweddariad am gynnydd

    Byddwn yn cynhyrchu datganiad canol strategaeth i rannu ein cynnydd hyd yn hyn. Bydd y diweddariad hwn yn tynnu sylw at yr hyn sydd wedi’i gyflawni, yr hyn sydd ar y gweill a ble rydyn ni’n mynd nesaf. Bydd yn rhoi syniad i ddinasyddion a rhanddeiliaid o sut mae ein strategaeth ddigidol yn cyflawni newid…

  • Cymorth technegol

    Gweithio gyda thimau sy’n wynebu’r cyhoedd ar draws y cyngor i greu adnoddau ymarferol sy’n helpu preswylwyr i addasu eu dyfeisiau a chael mynediad i wasanaethau digidol. P’un a yw’n addasu gosodiadau ar gyfer gwell hygyrchedd neu ddysgu sut i ddefnyddio offer ar-lein, bydd yr adnoddau hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb gysylltu…

  • Mwy o gymorth all-lein

    Mae galluogi ein timau gwasanaeth cwsmeriaid i weld rhyngweithiadau digidol yn golygu eu bod yn gallu camu i mewn a helpu pan nad yw pethau’n mynd yn ôl y disgwyl. Gyda mynediad i’r wybodaeth gywir, mae staff yn gallu deall yn gyflym beth sydd wedi digwydd, cynnig cymorth a rhoi pethau’n ôl ar y trywydd…

  • Cynnal safonau

    Rydyn ni’n gosod safonau clir ar gyfer sut rydyn ni’n datblygu gwasanaethau digidol. Bydd y rhain yn llywio ein gwaith ar draws dylunio, defnyddioldeb, hygyrchedd a hunaniaeth brand. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod pob gwasanaeth rydyn ni’n ei greu yn gyson, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gynhwysol.

  • Hysbysiadau’r ap

    Rydyn ni’n ehangu’r defnydd o hysbysiadau o fewn ein ap symudol fel bod dinasyddion yn gallu cael gwybod am gynnydd eu ceisiadau am wasanaethau. Bydd y diweddariadau hyn yn helpu defnyddwyr i deimlo’n fwy cysylltiedig ac mewn rheolaeth, gan ddarparu gwybodaeth amserol a lleihau ansicrwydd.

  • Deall profiad y defnyddiwr

    Rydyn ni’n adolygu sut mae ein llwyfannau digidol yn perfformio i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu eich anghenion. Trwy nodi unrhyw bwyntiau methiant a deall lle mae defnyddwyr yn wynebu heriau, gallwn wella taith y cwsmer o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn ein helpu i greu profiadau ar-lein sy’n rhwyddach, yn fwy…

  • Gwella profiad y defnyddiwr

    Ein ffocws yw gwella pob cam o daith y cwsmer i ddarparu profiad defnyddiwr rhagorol. Trwy ddylunio gyda defnyddwyr symudol mewn golwg o’r cychwyn cyntaf, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau digidol yn hawdd eu defnyddio, yn ymatebol ac yn hygyrch ble bynnag a phryd bynnag y mae pobl eu hangen.

  • Helpu pobl i fynd ar-lein

    Rydyn ni eisiau i fwy o bobl elwa o’n gwasanaethau digidol. Dyna pam rydyn ni’n cynyddu hyrwyddo, yn cynnig hyfforddiant ac yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i godi ymwybyddiaeth a magu hyder. Trwy helpu preswylwyr i ddeall beth sydd ar gael a sut i’w ddefnyddio, rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i bawb wneud pethau…

  • Datblygu’r cyfrif cwsmeriaid

    Ein nod yw parhau i weithio ar gyfrif cwsmeriaid, a fydd yn integreiddio â’n holl wasanaethau ar-lein. Mae hyn yn golygu y bydd preswylwyr yn gallu rheoli popeth mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws cael mynediad i wybodaeth, cwblhau tasgau a chael cymorth trwy brofiad hunanwasanaeth rhwydd.

  • Adnewyddu’r wefan

    Byddwn yn cwblhau’r newid i system rheoli cynnwys newydd ar gyfer ein gwefan. Bydd yr uwchraddiad hwn yn ei gwneud hi’n haws i ni gadw cynnwys yn gywir, yn hygyrch ac yn gyfredol, fel y gallwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn gyflym ac yn hawdd.