• Cysylltedd yn y gymuned

    Rydyn ni’n darparu cysylltiadau band eang am ddim am oes i 15 o ganolfannau cymunedol ledled Caerdydd. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr i gael mynediad hawdd i wasanaeth rhyngrwyd cyflym a sefydlog, p’un a ydych chi’n ymweld i gael cymorth, mynychu digwyddiadau neu angen mynd ar-lein. Mae’n rhan o’n hymrwymiad i gynhwysiant digidol a sicrhau…

  • Sgyrsiau gwe mewn iaith gymunedol

    Bydd treialu gwe-sgwrsio mewn ieithoedd cymunedol ar draws gwasanaethau tai, y llinell gyngor, cyllid a rheoli dyledion yn helpu i wneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch i breswylwyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg neu Gymraeg. Mae’r dull hwn yn cefnogi cyfathrebu cliriach, cymorth cyflymach a phrofiad mwy cynhwysol i bob defnyddiwr.

  • Prosiect band eang lleol

    Rydyn ni’n cwblhau’r gwaith o gyflawni’r prosiect band eang lleol i wella cysylltedd ledled Caerdydd. Mae hyn yn golygu mynediad cyflymach a mwy dibynadwy i’r rhyngrwyd ar gyfer cartrefi, busnesau a mannau cymunedol – gan helpu mwy o bobl i fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sy’n bwysig.

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd

    Rydyn ni’n ehangu ein hymdrechion ymgysylltu o fewn y gymuned trwy weithio’n agos gyda’n timau sy’n wynebu’r cyhoedd. Trwy sgyrsiau uniongyrchol ac allgymorth, rydyn ni’n ceisio deall anghenion ein defnyddwyr yn well a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu wrth gael mynediad i wasanaethau digidol. Bydd y mewnwelediadau hyn yn ein helpu i ddylunio atebion…

  • Gwasanaethau digidol yn Gymraeg

    Rydyn ni’n gweithio gyda Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau bod ein gwasanaethau digidol ar gael yn Gymraeg i bawb sydd eu hangen. P’un a ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, yn gweithio yma, neu’n ymweld â hi. Bydd ein llwyfannau’n parhau i fodloni holl Safonau perthnasol y Gymraeg, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad…

  • Taliadau ar-lein

    Rydyn ni’n archwilio cyfleoedd e-fasnach newydd ar draws ein gwefannau a’n llwyfannau digidol i’w gwneud hi’n haws i ddinasyddion dalu am wasanaethau, archebu gweithgareddau a phrynu cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r Cyngor ar-lein. Trwy nodi a gweithredu’r opsiynau hyn, byddwn yn cynnig ffyrdd mwy cyfleus, diogel a hawdd eu defnyddio i bobl ryngweithio â’r Cyngor.

  • Cynllunio cyfrif cwsmeriaid

    Rydyn ni’n datblygu cynlluniau ar gyfer cyfrif cwsmer sengl a fydd yn ei gwneud hi’n haws i breswylwyr gael mynediad i’r gwasanaethau sy’n bwysicaf iddynt. Gydag un dull mewngofnodi diogel, bydd dinasyddion yn gallu rheoli sut maen nhw’n rhyngweithio â’r cyngor mewn un lle. Bydd hyn yn arbed amser ac yn creu profiad rhwydd a…

  • SgyrsFot mwy clyfar

    Rydyn ni’n datblygu ein gwasanaethau sgwrsio trwy symud o offer traddodiadol i AI cynhyrchiol, gan wneud rhyngweithiadau yn fwy clyfar ac yn fwy ymatebol. Ar gyfer tasgau symlach, byddwn hefyd yn cyflwyno AI cyfryngol – cymorth awtomataidd sy’n gallu gweithredu ar ran defnyddwyr. Bydd y newidiadau hyn yn helpu dinasyddion i gael cymorth cyflymach, mwy…

  • Cynhwysiant digidol

    Rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud yn y Siarter Cynhwysiant Digidol (CWPAS). Mae hyn yn golygu cymryd camau gwirioneddol i sicrhau bod gan bawb yng Nghaerdydd y sgiliau, yr offer a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Trwy weithio gyda phartneriaid a chymunedau, rydyn…

  • Dylunio i bawb

    Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid hygyrchedd i sicrhau bod ein llwyfannau digidol yn bodloni safonau cyfreithiol ac yn gynhwysol i bawb. Trwy gynyddu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hygyrchedd, rydyn ni’n helpu i sicrhau bod pob preswylydd yn gallu cyrchu a defnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn hyderus.