30 Mehefin 2026
Bob mis Ebrill, mae rhenti tai yn cynyddu. Ar gyfer preswylwyr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol gyda chymorth tuag at gostau tai, mae’n bwysig bod y swm rhent newydd yn cael ei gadarnhau’n gyflym fel bod taliadau’n aros yn gywir ac nad oes oedi arnyn nhw.
Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Cyngor gwblhau tua 12,000 o wiriadau rhent mewn dim ond chwe wythnos. Os yw’r gwaith hwn yn cymryd rhy hir, gall oedi’r cadarnhad i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac achosi pryder diangen i breswylwyr.
Beth sydd wedi newid i gwsmeriaid
Rydyn ni bellach yn defnyddio Awtomeiddio Prosesau Robotig (APR) i gwblhau’r rhan fwyaf o wiriadau rhent yn gyflym ac yn gywir. Mae hyn yn golygu:
- Mae newidiadau rhent yn cael eu cadarnhau’n gyflymach
- Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn parhau i fod yn gywir
- Mae preswylwyr yn llai tebygol o brofi oedi neu amhariad
- Does dim angen cymaint o ymholiadau dilynol
Adeiladu ar ddull llwyddiannus
2026 yw’r ail flwyddyn i’r broses awtomataidd hon gael ei defnyddio, gan ganiatáu i ragor o wiriadau gael eu cwblhau’n awtomatig ac yn gynharach yn y cyfnod y mae rhenti’n cael eu cynyddu.
Oherwydd nad oes angen i staff brosesu’r rhan fwyaf o wiriadau â llaw, mae ganddyn nhw fwy o amser felly i ymateb i ymholiadau tai eraill, gan helpu preswylwyr i gael cymorth yn gyflymach pan fydd ei angen arnyn nhw.
Sut mae hyn yn cefnogi ein Strategaeth Ddigidol
Mae awtomeiddio yn helpu i sicrhau bod preswylwyr yn:
- Derbyn y taliadau iawn ar yr adeg iawn
- Profi llai o oedi yn ystod cyfnodau y mae rhenti’n newid
- Cael ymatebion cyflymach i ymholiadau eraill
Mae’r prosiect hwn yn lleihau gwaith ailadroddus i staff, gan eu rhyddhau i ganolbwyntio ar dasgau mwy cymhleth. Does dim angen dysgu sut i ddefnyddio unrhyw systemau newydd, dim ond bod llai o brosesu â llaw. Mae’r gwaith hefyd wedi ein helpu i archwilio sut y gall awtomeiddio weithredu’n ddiogel ochr yn ochr â dilysu aml-ffactor, gan gefnogi prosiectau yn y dyfodol.



