Sut rydyn ni’n gweithio gyda thrigolion i wella gwasanaethau digidol Caerdydd

19 Mawrth 2026

Drwy gydol mis Ionawr a Chwefror 2026, rydyn ni wedi bod mas yn y gymuned yn siarad yn uniongyrchol â thrigolion am eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein Cyngor Caerdydd. Mae’r profion defnyddwyr ymarferol hyn yn rhan allweddol o’n Strategaeth Ddigidol ac yn ein helpu i sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynllunio yn gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio.

Gwrando ar breswylwyr ble maen nhw

Gwnaethom ymweld â Llyfrgell Treftadaeth Cathays a Hyb Grangetown, gan gwrdd â thrigolion o bob oed a oedd yn hapus i rannu eu profiadau. Gyda chefnogaeth timau’r hyb a’r llyfrgell, bu’n bosibl i ni ddefnyddio mannau croesawgar lle gallai pobl roi cynnig ar dasgau ar-lein go iawn ar eu dyfeisiau eu hunain.
Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau bob dydd fel:

  • Gwirio diwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff
  • Archebu casgliadau gwastraff swmpus
  • Dod o hyd i wybodaeth allweddol ar wefan y Cyngor

Trwy edrych ar sut mae pobl yn defnyddio’r safle, gwnaethom ddysgu llawer am yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae angen gwella.

Beth ddysgon ni

Roedd trigolion yn agored ac yn onest am eu profiadau. Roedd rhai o’r themâu a glywsom yn cynnwys:

  • Mae arwyddion cliriach yn helpu pawb
    Mae rhai dolenni pwysig, fel gwirio diwrnodau casglu, yn hawdd i’w colli pan maen nhw wedi’u claddu ynghanol tudalennau hirach. Rydyn ni’n gweithio ar ei gwneud hi’n haws dod o hyd i dasgau allweddol.
  • Mae cynnwys byrrach yn gwella hyder
    Roedd tudalennau hir sy’n cynnwys llawer o destun yn gwneud i rai defnyddwyr deimlo’n bryderus neu ansicr. Rydyn ni’n adolygu lle gellir symleiddio neu ad-drefnu cynnwys.
  • Mae pobl yn gwerthfawrogi defnyddio eu dyfeisiau eu hunain
    Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn defnyddio eu ffonau clyfar eu hunain, gan gynnwys nodweddion hygyrchedd fel mewnbwn lleferydd neu osodiadau cyferbyniad. Mae hyn yn ein helpu i gynllunio gwasanaethau sy’n teimlo’n reddfol ar y dyfeisiau y mae preswylwyr yn eu defnyddio.
  • Mae lleoliadau cymunedol cyfforddus yn gwneud gwahaniaeth
    Roedd profi o fewn grwpiau cyfarwydd – fel sesiynau celf a chrefft – yn tawelu meddwl cyfranogwyr ac yn eu gwneud nhw’n fwy parod i roi cynnig ar dasgau a gofyn cwestiynau.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae profion defnyddwyr yn hanfodol i adeiladu gwasanaethau ar-lein sydd:

  • Yn hawdd eu defnyddio
  • Yn hygyrch i bawb
  • Wedi’u cynllunio o amgylch anghenion gwirioneddol, nid rhagdybiaethau

Mae hefyd yn cefnogi ein nodau digidol ehangach o wella teithiau ar-lein, lleihau rhwystrau, a rhoi profiad llyfnach, mwy hyderus i breswylwyr.

Beth nesaf? 

Byddwn yn parhau i ymweld â hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas dros y misoedd nesaf. Rydyn ni hefyd yn datblygu mwy o ffyrdd i bobl gymryd rhan, gan gynnwys:

  • Sesiynau profi cymunedol ehangach
  • Cyfleoedd i baneli defnyddwyr siapio gwasanaethau newydd
  • Gweithio gyda grwpiau hygyrchedd a chydraddoldeb

Mae eich adborth yn llywio’n uniongyrchol y gwelliannau rydyn ni’n eu gwneud. Gyda’ch help chi, gallwn adeiladu gwasanaethau digidol sy’n gweithio’n well i bawb yng Nghaerdydd.
Os hoffech gymryd rhan mewn profion yn y dyfodol neu ddysgu mwy am ein gwaith digidol, cadwch lygad ar ein diweddariadau neu siaradwch â thîm eich hyb neu lyfrgell leol.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y sesiynau – mae eich barn eisoes yn ein helpu i greu profiad digidol gwell i bawb.