Mae ein Safon Dylunio Gwasanaeth Digidol yn nodi sut rydym yn gwneud hyn. Rydym wedi ysgrifennu ein safonau yn dilyn Safon Gwasanaeth Digidol genedlaethol Cymru.
Yng Nghyngor Caerdydd, rydym yn dylunio gwasanaethau yn unol â’r egwyddorion canlynol:

Canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Wedi’u hadeiladu o amgylch anghenion go iawn y defnyddwyr
- Hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch i bawb
- Wedi’u cynllunio yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Cynnwys cymunedau amrywiol Caerdydd
- Canolbwyntio ar lesiant ledled Cymru
Cydweithredol
- Cydgysylltiedig ar draws adrannau a sefydliadau
- Wedi’u datblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid allweddol
- Cyson o ran dyluniad, boed wedi’i adeiladu’n fewnol neu gyda chyflenwyr


Wedi’u gyrru gan dimau
- Dan arweiniad perchnogion cynnyrch atebol
- Wedi’u cyflwyno gan dimau medrus, amlddisgyblaethol
- Wedi’u profi a’u gwella’n barhaus
- Yn agored ac yn dryloyw o ran cynnydd
Call o ran technoleg
- Defnyddio offer diogel all gael eu hehangu
- Blaenoriaethu moeseg, preifatrwydd a diogelwch
- Wedi’u harwain gan ddata a mewnwelediadau defnyddwyr

Lawrlwythwch Safonau Gwasanaethau Digidol Caerdydd (PDF 250KB)
Gyda’i gilydd, mae’r safonau hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau digidol sy’n effeithlon, yn gynhwysol ac wedi’u hadeiladu i bara.
