Ein seilwaith a’n systemau

Mae gan Gaerdydd y seilwaith technegol a’r arbenigedd i gefnogi timau sy’n darparu gwasanaethau i’r dinasyddion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Seilwaith technegol cadarn a diogel yw asgwrn cefn gwasanaethau a gweithrediadau effeithlon a dibynadwy. Mae ein platfformau’n chwarae rôl hanfodol wrth alluogi gwasanaethau effeithiol a diogelu data.

  • Uwchraddio systemau etifeddol i fodloni gofynion y presennol a’r dyfodol. Wrth roi datrysiadau newydd ar waith, byddwn yn ystyried cynhyrchion ar y farchnad neu gyfleoedd am ddatblygiad mewnol yn ofalus.
  • Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gydweithredu â rhanddeiliaid, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd gyda’n timau mewnol a pharu’r dechnoleg fwyaf priodol â’r dasg.
  • Bydd cynlluniau seiberddiogelwch yn canolbwyntio ar ddiogelu ein systemau rhag bygythiadau sy’n esblygu, trwy ddull sy’n cynnwys archwiliadau a diweddariadau rheolaidd.
  • Mae hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff yn rhan hanfodol o’n hamddiffyniad, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein timau i adnabod ac ymateb yn effeithiol. Er mwyn atgyfnerthu ein gwytnwch a’n gallu i adfer ymhellach, byddwn yn datblygu ac yn profi cynlluniau wrth gefn i sicrhau parhad busnes.

Mae ein strategaeth ddata yn sicrhau uniondeb ac argaeledd ein data. Mae hyn yn cynnwys datrysiadau warws data i reoli a diogelu ein hasedau data. Ar y cyd â Strategaeth Ddata’r Cyngor, byddwn yn adeiladu ar lwyddiant prosiectau fel Golwg Cyfun ar Blentyn.

  • Gan ddefnyddio ein Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad, byddwn yn cymhwyso dull systematig i nodi a monitro blaenoriaethau corfforaethol.
  • Byddwn yn ymgysylltu’n rhagweithiol â phartneriaethau rhanbarthol. Trwy’r dull hwn sy’n fuddiol i bawb, gallwn gyflawni ein hamcanion cyffredin a gwella ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu’n effeithiol

Dysgwch fwy am ein gwaith yn y maes hwn

  • Gweithio tuag at seilwaith carbon niwtral i’r Cyngor

    Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud seilwaith ein Cyngor yn garbon niwtral. Mae hynny’n golygu defnyddio ynni adnewyddadwy, gridiau clyfar, a systemau ynni-effeithlon i bweru ein technoleg. Ein nod yw lleihau ein heffaith amgylcheddol wrth gefnogi ein cymuned.

  • Cynllunio ar gyfer gwell seilwaith i’r Cyngor

    Rydyn ni’n creu cynllun ar gyfer gwasanaethau seilwaith canolog. Mae hyn yn cynnwys adolygu opsiynau ar gyfer canolfannau data ar y safle ac yn allanol. Ein nod yw dewis y drefn orau i gefnogi ein staff a gwella gwasanaethau i bawb.

  • Moderneiddio technoleg y Cyngor

    Rydyn ni’n adolygu manteision cyfrifiadura cwmwl o’i gymharu â systemau traddodiadol. Lle mae’n gwneud synnwyr, byddwn yn defnyddio’r dechnoleg gwmwl orau i helpu ein staff i weithio’n fwy effeithlon a dod â syniadau newydd yn fyw. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau gwell i bawb.

Digital services and support for you