Ein gweithlu

Bydd ein staff yn cael eu cefnogi drwy’r newidiadau y mae cyfleoedd digidol yn eu cyflwyno.

O ran cyflawni newid, bydd ein gweithlu wrth wraidd ein llwyddiant. Mae hyn yn golygu sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n ddigonol a’u bod yn hyderus i lywio’r dirwedd ddigidol.

  • Cefnogi staff drwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a dysgu sut i ddefnyddio’r offer sydd eu hangen ar gyfer ffyrdd newydd o weithio
  • Rhoi’r wybodaeth ac offer diweddaraf i staff o ran y dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fedrus ac yn hyderus yn eu galluoedd digidol
  • Cynllunio gweithlu cadarn – uwchsgilio ein gweithwyr presennol a recriwtio wedi’i dargedu i ddenu talent newydd.
  • Canolbwyntio ar sgiliau allweddol mewn rheoli prosiectau a datblygu cynnyrch digidol gan ddefnyddio’r Fframwaith Gallu Digidol a Dilyniant Data i nodi’r rolau, y sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant.
  • Mae ein gweithlu addysg hefyd yn rhan sylweddol o’r trawsnewidiad hwn. Mae’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, wedi’i chefnogi gan bwyslais Caerdydd ar dwf proffesiynol, yn sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau i wireddu uchelgeisiau digidol Caerdydd 2030.
  • Meithrin talent y dyfodol trwy gyfleoedd am hyfforddeiaethau a phrentisiaethau ym maes technoleg ddigidol a thrawsnewid digidol.
  • Cydweithio â phrifysgolion a cholegau i ddod o hyd i dalent posibl a’i datblygu.

Dysgwch fwy am ein gwaith yn y maes hwn

  • Cefnogi staff newydd y Cyngor o’r diwrnod cyntaf

    Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr newydd y Cyngor yn cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir ar gyfer ei rôl. Mae ein proses sefydlu yn seiliedig ar ddisgrifiad swydd pob person, fel bod gan staff yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo o’r cychwyn cyntaf.

  • Defnyddio AI i gefnogi timau’r Cyngor

    Rydyn ni’n helpu ein staff i ddysgu am ddeallusrwydd artiffisial (AI) trwy weminarau rheolaidd. Mae’r sesiynau hyn yn egluro beth mae AI yn gallu ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud. Rydyn ni hefyd yn rhannu enghreifftiau go iawn o sut mae AI yn gallu helpu ein gweithwyr yn eu gwaith pob dydd. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi ein tîm wrth i ni fabwysiadu technoleg newydd i wella gwasanaethau i bawb.

  • Helpu ein staff i’ch gwasanaethu’n well

    Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod gan ein staff sgiliau digidol da. Mae gweithwyr y Cyngor yn gallu cael mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant, gan gynnwys sesiynau hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ddigidol. Mae hyn yn helpu ein tîm i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy hygyrch i bawb yn ein cymuned.

Digital services and support for you