5 Rhagfyr 2025

Rydym wedi lansio ein Strategaeth Ddigidol ar gyfer 2025 i 2030.

Mae ein nod yn syml: defnyddio offer digidol i ddarparu gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy hygyrch i chi. Bydd y wefan hon yn rhannu diweddariadau, newyddion, a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Beth sy’n digwydd a sut mae’n eich helpu chi

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddwn yn gweithio ar brosiectau sy’n dod o dan 4 prif thema ein strategaeth:

  • Dinasyddion a chymunedau
  • Cyngor digidol
  • Ein gweithlu
  • Seilwaith a systemau

Ewch i bob adran ar y wefan i ddysgu am ein cynlluniau – nawr, nesaf a nes ymlaen.

Pam mae ein strategaeth ddigidol yn bwysig

I ddinasyddion a chymunedau, mae’n golygu mynediad cyflymach a symlach at wasanaethau’r cyngor – boed yn talu biliau, yn rhoi gwybod am broblemau, neu’n dod o hyd i wybodaeth ar-lein – trwy systemau diogel sy’n diogelu eich data.

I’r rheiny sydd angen cymorth all-lein, byddwn yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ein Hybiau ac ar ein llinellau ffôn pwrpasol. Byddwn hefyd yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau digidol fel y gallant fynd ar-lein gyda hyder os ydynt yn dewis gwneud hynny.

I’n gweithlu, mae’n golygu offer mwy clyfar sy’n arbed amser, yn lleihau gwaith papur ac yn cadw gwybodaeth yn ddiogel, fel y gall gweithwyr ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gwych.

Trwy gofleidio technoleg, rydym yn adeiladu cyngor digidol sy’n fwy effeithlon a chynhwysol er lles y ddinas gyfan.

Cymerwch ran

Bydd eich syniadau a’ch adborth yn helpu i lunio’r gwasanaethau hyn. Dywedwch wrthym beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Caerdydd yn ddinas lle mae technoleg o fudd i bawb.

Dewch yn ôl i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd i ddweud eich dweud.