Dinasyddion a chymunedau

Rydym am wneud ein gwasanaethau digidol yn fwy hygyrch, effeithlon, a hawdd eu defnyddio i’n dinasyddion a’n cymunedau. 

Mae’r gwaith rydym wedi’i gynllunio fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol yn cynnwys:

  • Ychwanegu rhagor o wasanaethau at yr ap CardiffGov a gwefan Cyngor Caerdydd.  
  • Hyfforddi ein SgwrsFot i ateb rhagor o’ch cwestiynau.   
  • Gwefan newydd sy’n haws i’w defnyddio ac sy’n gweithio’n well ar ffonau symudol a thabledi.
  • Cynlluniau ar gyfer y dewis i gael gwe-sgyrsiau a galwadau fideo mewn ieithoedd cymunedol. 
  • Cefnogi dinasyddion i ddysgu sgiliau digidol.
  • Mynd i’r afael ag allgáu digidol yn y ddinas.

Dysgwch fwy am ein gwaith yn y maes hwn

  • Cynlluniau ar gyfer BOBi (sgyrsfot)

    Mae ein tîm yn datblygu cynlluniau i uwchraddio BOBi, ein cynorthwyydd digidol, i fodel AI cynhyrchiol gyda chefnogaeth ddwyieithog lawn. Bydd hyn yn galluogi BOBi i ymateb yn fwy naturiol a deallus yn y Gymraeg a’r Saesneg – gan ei gwneud hi’n haws i bawb gael atebion cyflym a defnyddiol yn eu dewis iaith.

  • Budd-daliadau a’r Dreth Gyngor ar-lein

    Bydd gwella ein system refeniw a budd-daliadau yn galluogi dinasyddion i weld gwybodaeth am eu budd-daliadau tai a’u gostyngiadau’r dreth gyngor ar-lein. Bydd y datblygiad hwn yn ei gwneud hi’n haws i breswylwyr weld manylion ariannol pwysig yn gyflym ac yn ddiogel – gan leihau’r angen i ffonio neu ymweld yn bersonol a gwella cyfleustra cyffredinol.

  • Sylw symudol dibynadwy

    Rydyn ni’n parhau i weithio gyda gweithredwyr rhwydwaith symudol i sicrhau bod gan Gaerdydd ddarpariaeth symudol gyson a dibynadwy hyd yn oed yn ystod amseroedd prysur. P’un a yw’n ddigwyddiad mawr neu’n gyfnod teithio brig, rydyn ni am i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr gadw mewn cysylltiad heb darfu.

  • Cynnig galwadau fideo

    Bydd ychwanegu swyddogaeth galwadau fideo at we-sgwrs yn lleihau’r angen am gyfarfodydd personol ac yn ei gwneud hi’n haws i ddinasyddion gael mynediad i gymorth o ble bynnag y maen nhw. Mae’r dull hwn yn gwella hygyrchedd, yn cynnig mwy o hyblygrwydd ac yn helpu i ddarparu gwasanaeth cyflymach, mwy personol.

  • Cysylltedd yn adeiladau’r Cyngor

    Rydyn ni’n darparu cysylltiadau band eang am ddim am oes i 15 o adeiladau cyhoeddus y Cyngor ledled Caerdydd. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr i gael mynediad hawdd i wasanaeth rhyngrwyd cyflym a sefydlog, p’un a ydych chi’n ymweld i gael cymorth, mynychu digwyddiadau neu angen mynd ar-lein. Mae’n rhan o’n hymrwymiad i gynhwysiant digidol a sicrhau bod cysylltedd ar gael i bawb.

  • Sgyrsiau gwe mewn iaith gymunedol

    Bydd treialu gwe-sgwrsio mewn ieithoedd cymunedol ar draws gwasanaethau tai, y llinell gyngor, cyllid a rheoli dyledion yn helpu i wneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch i breswylwyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg neu Gymraeg. Mae’r dull hwn yn cefnogi cyfathrebu cliriach, cymorth cyflymach a phrofiad mwy cynhwysol i bob defnyddiwr.

  • Prosiect band eang lleol

    Rydyn ni’n cwblhau’r gwaith o gyflawni’r prosiect band eang lleol i wella cysylltedd ledled Caerdydd. Mae hyn yn golygu mynediad cyflymach a mwy dibynadwy i’r rhyngrwyd ar gyfer cartrefi, busnesau a mannau cymunedol – gan helpu mwy o bobl i fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sy’n bwysig.

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd

    Rydyn ni’n ehangu ein hymdrechion ymgysylltu o fewn y gymuned trwy weithio’n agos gyda’n timau sy’n wynebu’r cyhoedd. Trwy sgyrsiau uniongyrchol ac allgymorth, rydyn ni’n ceisio deall anghenion ein defnyddwyr yn well a’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu wrth gael mynediad i wasanaethau digidol. Bydd y mewnwelediadau hyn yn ein helpu i ddylunio atebion mwy cynhwysol, effeithiol sy’n adlewyrchu profiadau cymunedau amrywiol Caerdydd mewn gwirionedd.

  • Gwasanaethau digidol yn Gymraeg

    Rydyn ni’n gweithio gyda Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau bod ein gwasanaethau digidol ar gael yn Gymraeg i bawb sydd eu hangen. P’un a ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, yn gweithio yma, neu’n ymweld â hi. Bydd ein llwyfannau’n parhau i fodloni holl Safonau perthnasol y Gymraeg, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad i wasanaethau’n hyderus ac yn gyfforddus yn eu dewis iaith.

  • Taliadau ar-lein

    Rydyn ni’n archwilio cyfleoedd e-fasnach newydd ar draws ein gwefannau a’n llwyfannau digidol i’w gwneud hi’n haws i ddinasyddion dalu am wasanaethau, archebu gweithgareddau a phrynu cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r Cyngor ar-lein. Trwy nodi a gweithredu’r opsiynau hyn, byddwn yn cynnig ffyrdd mwy cyfleus, diogel a hawdd eu defnyddio i bobl ryngweithio â’r Cyngor.

  • Cynllunio cyfrif cwsmeriaid

    Rydyn ni’n datblygu cynlluniau ar gyfer cyfrif cwsmer sengl a fydd yn ei gwneud hi’n haws i breswylwyr gael mynediad i’r gwasanaethau sy’n bwysicaf iddynt. Gydag un dull mewngofnodi diogel, bydd dinasyddion yn gallu rheoli sut maen nhw’n rhyngweithio â’r cyngor mewn un lle. Bydd hyn yn arbed amser ac yn creu profiad rhwydd a mwy personol.

  • SgyrsFot mwy clyfar

    Rydyn ni’n datblygu ein gwasanaethau sgwrsio trwy symud o offer traddodiadol i AI cynhyrchiol, gan wneud rhyngweithiadau yn fwy clyfar ac yn fwy ymatebol. Ar gyfer tasgau symlach, byddwn hefyd yn cyflwyno AI cyfryngol – cymorth awtomataidd sy’n gallu gweithredu ar ran defnyddwyr. Bydd y newidiadau hyn yn helpu dinasyddion i gael cymorth cyflymach, mwy cywir, wrth ryddhau staff i ganolbwyntio ar anghenion mwy cymhleth.

  • Cynhwysiant digidol

    Rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud yn y Siarter Cynhwysiant Digidol (CWPAS). Mae hyn yn golygu cymryd camau gwirioneddol i sicrhau bod gan bawb yng Nghaerdydd y sgiliau, yr offer a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fynd ar-lein a chadw mewn cysylltiad. Trwy weithio gyda phartneriaid a chymunedau, rydyn ni’n helpu i gau’r bwlch digidol a gwneud gwasanaethau digidol yn hygyrch i bawb.

  • Dylunio i bawb

    Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid hygyrchedd i sicrhau bod ein llwyfannau digidol yn bodloni safonau cyfreithiol ac yn gynhwysol i bawb. Trwy gynyddu cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hygyrchedd, rydyn ni’n helpu i sicrhau bod pob preswylydd yn gallu cyrchu a defnyddio ein gwasanaethau ar-lein yn hyderus.

  • Diweddariad am gynnydd

    Byddwn yn cynhyrchu datganiad canol strategaeth i rannu ein cynnydd hyd yn hyn. Bydd y diweddariad hwn yn tynnu sylw at yr hyn sydd wedi’i gyflawni, yr hyn sydd ar y gweill a ble rydyn ni’n mynd nesaf. Bydd yn rhoi syniad i ddinasyddion a rhanddeiliaid o sut mae ein strategaeth ddigidol yn cyflawni newid ledled Caerdydd.

  • Cymorth technegol

    Gweithio gyda thimau sy’n wynebu’r cyhoedd ar draws y cyngor i greu adnoddau ymarferol sy’n helpu preswylwyr i addasu eu dyfeisiau a chael mynediad i wasanaethau digidol. P’un a yw’n addasu gosodiadau ar gyfer gwell hygyrchedd neu ddysgu sut i ddefnyddio offer ar-lein, bydd yr adnoddau hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb gysylltu a chadw gwybod.

  • Mwy o gymorth all-lein

    Mae galluogi ein timau gwasanaeth cwsmeriaid i weld rhyngweithiadau digidol yn golygu eu bod yn gallu camu i mewn a helpu pan nad yw pethau’n mynd yn ôl y disgwyl. Gyda mynediad i’r wybodaeth gywir, mae staff yn gallu deall yn gyflym beth sydd wedi digwydd, cynnig cymorth a rhoi pethau’n ôl ar y trywydd iawn – gan wneud y profiad yn rhwyddach i ddinasyddion mewn ffordd sy’n rhoi sicrwydd iddyn nhw.

  • Cynnal safonau

    Rydyn ni’n gosod safonau clir ar gyfer sut rydyn ni’n datblygu gwasanaethau digidol. Bydd y rhain yn llywio ein gwaith ar draws dylunio, defnyddioldeb, hygyrchedd a hunaniaeth brand. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod pob gwasanaeth rydyn ni’n ei greu yn gyson, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gynhwysol.

  • Hysbysiadau’r ap

    Rydyn ni’n ehangu’r defnydd o hysbysiadau o fewn ein ap symudol fel bod dinasyddion yn gallu cael gwybod am gynnydd eu ceisiadau am wasanaethau. Bydd y diweddariadau hyn yn helpu defnyddwyr i deimlo’n fwy cysylltiedig ac mewn rheolaeth, gan ddarparu gwybodaeth amserol a lleihau ansicrwydd.

  • Deall profiad y defnyddiwr

    Rydyn ni’n adolygu sut mae ein llwyfannau digidol yn perfformio i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu eich anghenion. Trwy nodi unrhyw bwyntiau methiant a deall lle mae defnyddwyr yn wynebu heriau, gallwn wella taith y cwsmer o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn ein helpu i greu profiadau ar-lein sy’n rhwyddach, yn fwy dibynadwy ac sy’n gweithio’n well i bawb.

  • Gwella profiad y defnyddiwr

    Ein ffocws yw gwella pob cam o daith y cwsmer i ddarparu profiad defnyddiwr rhagorol. Trwy ddylunio gyda defnyddwyr symudol mewn golwg o’r cychwyn cyntaf, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau digidol yn hawdd eu defnyddio, yn ymatebol ac yn hygyrch ble bynnag a phryd bynnag y mae pobl eu hangen.

  • Helpu pobl i fynd ar-lein

    Rydyn ni eisiau i fwy o bobl elwa o’n gwasanaethau digidol. Dyna pam rydyn ni’n cynyddu hyrwyddo, yn cynnig hyfforddiant ac yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i godi ymwybyddiaeth a magu hyder. Trwy helpu preswylwyr i ddeall beth sydd ar gael a sut i’w ddefnyddio, rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i bawb wneud pethau ar-lein – yn gyflym, yn ddiogel ac yn eu hamser eu hunain.

  • Datblygu’r cyfrif cwsmeriaid

    Ein nod yw parhau i weithio ar gyfrif cwsmeriaid, a fydd yn integreiddio â’n holl wasanaethau ar-lein. Mae hyn yn golygu y bydd preswylwyr yn gallu rheoli popeth mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws cael mynediad i wybodaeth, cwblhau tasgau a chael cymorth trwy brofiad hunanwasanaeth rhwydd.

  • Adnewyddu’r wefan

    Byddwn yn cwblhau’r newid i system rheoli cynnwys newydd ar gyfer ein gwefan. Bydd yr uwchraddiad hwn yn ei gwneud hi’n haws i ni gadw cynnwys yn gywir, yn hygyrch ac yn gyfredol, fel y gallwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn gyflym ac yn hawdd.

  • Panel profi defnyddwyr

    Rydyn ni’n datblygu cynllun ymgysylltu digidol sy’n canolbwyntio ar ein cwsmeriaid. Byddwn yn gofyn am eich adborth ac yn sefydlu panel profi defnyddwyr sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Trwy weithio gyda phobl o bob cefndir, gallwn sicrhau bod ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn cael eu cyfeirio gan y bobl sy’n eu defnyddio.

  • Archwilio e-fasnach ar wefannau’r Cyngor

    Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o ychwanegu mwy o nodweddion e-fasnach at wefannau’r Cyngor. Gallai hyn ei gwneud hi’n haws i bobl dalu am wasanaethau, archebu cyfleusterau neu brynu trwyddedau ar-lein. Ein nod yw gwella cyfleustra a mynediad i wasanaethau’r Cyngor, lle bo modd.

  • Cyfrif cwsmeriaid

    Rydyn ni’n gweithio ar gynlluniau i’w gwneud hi’n haws i ddinasyddion reoli eu holl ryngweithiadau â’r Cyngor mewn un lle. Bydd creu cyfrif cwsmeriaid yn galluogi dinasyddion i weld statws yr adroddiadau neu’r ceisiadau maen nhw’n eu gwneud i’r Cyngor a’r hyn rydyn ni’n ei wneud mewn ymateb. Ni fydd hyn yn hawdd gan ein bod yn gweithio gyda chynifer o systemau gwahanol, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wella’r profiad i’n dinasyddion.

  • Llwyfan newydd i’r wefan

    Rydyn ni’n ystyried opsiynau ar gyfer system newydd i adeiladu ein prif wefan. Mae’r dechnoleg sydd gennym yn hen ac mae angen i ni ei huwchraddio. Rydyn ni am wneud hyn yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol posibl a sicrhau bod modd addasu’r wefan i newidiadau fel y gall dinasyddion gael mynediad hawdd i wasanaethau’r Cyngor ar-lein.

Read our latest progress update