Mae’r gwaith rydym wedi’i gynllunio fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol yn cynnwys:
- Gweithio ystwyth a gwella prosesau i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
- Offer sy’n cefnogi gweithio hyblyg a mannau swyddfa cynhyrchiol.
- Datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr Digidol ar gyfer ffyrdd mwy craff o weithio.
- Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio moesegol i leihau gwaith gweinyddol a chaniatáu i weithwyr ganolbwyntio ar gefnogi dinasyddion.
- Defnyddio systemau cysylltiedig i leihau gwallau a gwella gwelededd gwasanaethau.
- Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a defnyddio mewnwelediadau i lywio blaenoriaethau a gwella canlyniadau.
- Llywodraethu cryf i werthuso a blaenoriaethu prosiectau digidol er mwyn sicrhau’r gwerth a’r effaith gorau.

Dysgwch fwy am ein gwaith yn y maes hwn
-
Rheoli prosiectau digidol
Rydyn ni eisiau sicrhau bod yr holl brosiectau digidol yn y Cyngor yn cael eu rheoli mewn ffordd gyson. Rydyn ni’n sefydlu canllawiau a safonau i helpu timau’r Cyngor i ddewis y dechnoleg gywir a datblygu’r sgiliau cywir.
-
Gwella sut rydyn ni’n rheoli cofnodion dinasyddion
Rydyn ni’n adolygu ein dull o reoli cofnodion dinasyddion. Ein nod yw creu golwg fwy cysylltiedig ar draws holl wasanaethau’r Cyngor. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall a chefnogi preswylwyr yn well, gan gadw gwybodaeth yn ddiogel.
-
Gweithio ledled Cymru
Byddwn yn siarad â’n cydweithwyr o gynghorau eraill yng Nghymru i ddod o hyd i gyfleoedd i rannu technoleg ac adnoddau digidol. Rydyn ni am sicrhau gwerth am arian i bob preswylydd a mwy o gydweithio ar brosiectau.
