Credwn fod y gwasanaethau digidol gorau yn cael eu hadeiladu gyda’r bobl sy’n eu defnyddio. Dyna pam mae Cyngor Caerdydd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn llunio dyfodol ein platfformau a’n gwasanaethau digidol.
Ymunwch â’n panel profion defnyddiwr
Byddwch ymhlith y cyntaf i brofi nodweddion a gwasanaethau newydd cyn iddynt gael eu lansio. Rhannwch eich meddyliau a’n helpu i wella defnyddioldeb, hygyrchedd a dyluniad.
- Cymryd rhan mewn sesiynau profi ymarferol
- Rhoi adborth ar brototeipiau ac offer newydd
- Ein helpu ni i ddylunio gwasanaethau sy’n gweithio i bawb
Gallwch ddysgu am gyfleoedd i brofi gwasanaethau digidol a dweud eich dweud trwy ein diweddariadau ar gynnydd.
Rhannwch eich adborth
Rydym yn datblygu cynllun ymgysylltu digidol sy’n cynnwys cylchoedd adborth rheolaidd gyda’n dinasyddion. Cewch gyfleoedd i:
- Fynychu grwpiau ffocws a gweithdai cymunedol
- Cyflwyno adborth trwy arolygon a ffurflenni ar-lein
- Olrhain sut mae eich mewnbwn yn dylanwadu ar ein penderfyniadau
Sgyrsiau dan arweiniad y gymuned
Rydym yn gweithio gyda thimau sy’n wynebu’r cyhoedd a phartneriaid cymunedol i ddeall yn well y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau digidol. Mae hyn yn cynnwys:
- Peilota gwe-sgyrsiau mewn ieithoedd cymunedol
- Sesiynau lleol mewn Hybiau a chanolfannau cymunedol
- Caffis digidol a chlybiau cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu anffurfiol
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Byddwn yn cyhoeddi datganiad cynnydd canol strategaeth fel y gallwch weld sut mae eich cyfranogiad yn gwneud gwahaniaeth.
Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd ar y prosiect.
