Mae digon o adnoddau ar gael i’ch helpu chi, sy’n addas i ddysgwyr o bob gallu.

Tîm Cymorth Digidol
Os ydych chi’n poeni am fynd ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch i ddeall eich dyfais, apiau neu’r rhyngrwyd, mae’r Tîm Cymorth Digidol yma i’ch helpu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ac i gael mynediad at yr offer a’r data sydd eu hangen arnoch i fynd ar-lein, a bod yn ddiogel wrth wneud hynny! Galwch heibio i gwrdd â’r tîm mewn Hyb neu Ganolfan yn eich ardal chi. I gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod pryd byddwn ni yn eich ardal chi, ewch i wefan Cymorth Digidol – Adult Learning Cardiff.
Ewch ar-lein yn eich Hyb a’ch Llyfrgell leol
Gallwch fynd ar-lein drwy ymweld ag un o’n Hybiau neu’n Llyfrgelloedd. Maen nhw hefyd yn darparu ystod eang o wasanaethau Hyb a Llyfrgell. I gael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael ym mha hybiau a llyfrgelloedd, ewch i wefan yr Hybiau a Llyfrgelloedd | Cardiff Hubs : Cardiff Hubs.


Dysgu Oedolion Caerdydd
Mae Dysgu Oedolion Caerdydd yn ymfalchïo mewn cynnig cyrsiau sy’n darparu ar gyfer dysgwyr o bob lefel sgiliau yn rhanbarth Caerdydd.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau rydym yn eu cynnig a chofrestru ar eu cyfer drwy fynd i wefan Dysgu Oedolion Caerdydd.
