• Croeso i Wefan Strategaeth Ddigidol Cyngor Caerdydd

    5 Rhagfyr 2025

    Rydym wedi lansio ein Strategaeth Ddigidol ar gyfer 2025 i 2030.

    Mae ein nod yn syml: defnyddio offer digidol i ddarparu gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy hygyrch i chi. Bydd y wefan hon yn rhannu diweddariadau, newyddion, a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

    Beth sy’n digwydd a sut mae’n eich helpu chi

    Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddwn yn gweithio ar brosiectau sy’n dod o dan 4 prif thema ein strategaeth:

    • Dinasyddion a chymunedau
    • Cyngor digidol
    • Ein gweithlu
    • Seilwaith a systemau

    Ewch i bob adran ar y wefan i ddysgu am ein cynlluniau – nawr, nesaf a nes ymlaen.

    Pam mae ein strategaeth ddigidol yn bwysig

    I ddinasyddion a chymunedau, mae’n golygu mynediad cyflymach a symlach at wasanaethau’r cyngor – boed yn talu biliau, yn rhoi gwybod am broblemau, neu’n dod o hyd i wybodaeth ar-lein – trwy systemau diogel sy’n diogelu eich data.

    I’r rheiny sydd angen cymorth all-lein, byddwn yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ein Hybiau ac ar ein llinellau ffôn pwrpasol. Byddwn hefyd yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau digidol fel y gallant fynd ar-lein gyda hyder os ydynt yn dewis gwneud hynny.

    I’n gweithlu, mae’n golygu offer mwy clyfar sy’n arbed amser, yn lleihau gwaith papur ac yn cadw gwybodaeth yn ddiogel, fel y gall gweithwyr ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gwych.

    Trwy gofleidio technoleg, rydym yn adeiladu cyngor digidol sy’n fwy effeithlon a chynhwysol er lles y ddinas gyfan.

    Cymerwch ran

    Bydd eich syniadau a’ch adborth yn helpu i lunio’r gwasanaethau hyn. Dywedwch wrthym beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Caerdydd yn ddinas lle mae technoleg o fudd i bawb.

    Dewch yn ôl i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd i ddweud eich dweud. 

  • Gweithio tuag at seilwaith carbon niwtral i’r Cyngor

    Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud seilwaith ein Cyngor yn garbon niwtral. Mae hynny’n golygu defnyddio ynni adnewyddadwy, gridiau clyfar, a systemau ynni-effeithlon i bweru ein technoleg. Ein nod yw lleihau ein heffaith amgylcheddol wrth gefnogi ein cymuned.

  • Cynllunio ar gyfer gwell seilwaith i’r Cyngor

    Rydyn ni’n creu cynllun ar gyfer gwasanaethau seilwaith canolog. Mae hyn yn cynnwys adolygu opsiynau ar gyfer canolfannau data ar y safle ac yn allanol. Ein nod yw dewis y drefn orau i gefnogi ein staff a gwella gwasanaethau i bawb.

  • Moderneiddio technoleg y Cyngor

    Rydyn ni’n adolygu manteision cyfrifiadura cwmwl o’i gymharu â systemau traddodiadol. Lle mae’n gwneud synnwyr, byddwn yn defnyddio’r dechnoleg gwmwl orau i helpu ein staff i weithio’n fwy effeithlon a dod â syniadau newydd yn fyw. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau gwell i bawb.