• Croeso i Wefan Strategaeth Ddigidol Cyngor Caerdydd

    5 Rhagfyr 2025

    Rydym wedi lansio ein Strategaeth Ddigidol ar gyfer 2025 i 2030.

    Mae ein nod yn syml: defnyddio offer digidol i ddarparu gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy hygyrch i chi. Bydd y wefan hon yn rhannu diweddariadau, newyddion, a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

    Beth sy’n digwydd a sut mae’n eich helpu chi

    Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd am yr hyn rydym yn ei wneud. Byddwn yn gweithio ar brosiectau sy’n dod o dan 4 prif thema ein strategaeth:

    • Dinasyddion a chymunedau
    • Cyngor digidol
    • Ein gweithlu
    • Seilwaith a systemau

    Ewch i bob adran ar y wefan i ddysgu am ein cynlluniau – nawr, nesaf a nes ymlaen.

    Pam mae ein strategaeth ddigidol yn bwysig

    I ddinasyddion a chymunedau, mae’n golygu mynediad cyflymach a symlach at wasanaethau’r cyngor – boed yn talu biliau, yn rhoi gwybod am broblemau, neu’n dod o hyd i wybodaeth ar-lein – trwy systemau diogel sy’n diogelu eich data.

    I’r rheiny sydd angen cymorth all-lein, byddwn yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ein Hybiau ac ar ein llinellau ffôn pwrpasol. Byddwn hefyd yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau digidol fel y gallant fynd ar-lein gyda hyder os ydynt yn dewis gwneud hynny.

    I’n gweithlu, mae’n golygu offer mwy clyfar sy’n arbed amser, yn lleihau gwaith papur ac yn cadw gwybodaeth yn ddiogel, fel y gall gweithwyr ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gwych.

    Trwy gofleidio technoleg, rydym yn adeiladu cyngor digidol sy’n fwy effeithlon a chynhwysol er lles y ddinas gyfan.

    Cymerwch ran

    Bydd eich syniadau a’ch adborth yn helpu i lunio’r gwasanaethau hyn. Dywedwch wrthym beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Caerdydd yn ddinas lle mae technoleg o fudd i bawb.

    Dewch yn ôl i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd i ddweud eich dweud. 

  • Cefnogi staff newydd y Cyngor o’r diwrnod cyntaf

    Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod pob gweithiwr newydd y Cyngor yn cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir ar gyfer ei rôl. Mae ein proses sefydlu yn seiliedig ar ddisgrifiad swydd pob person, fel bod gan staff yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo o’r cychwyn cyntaf.

  • Defnyddio AI i gefnogi timau’r Cyngor

    Rydyn ni’n helpu ein staff i ddysgu am ddeallusrwydd artiffisial (AI) trwy weminarau rheolaidd. Mae’r sesiynau hyn yn egluro beth mae AI yn gallu ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud. Rydyn ni hefyd yn rhannu enghreifftiau go iawn o sut mae AI yn gallu helpu ein gweithwyr yn eu gwaith pob dydd. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi ein tîm wrth i ni fabwysiadu technoleg newydd i wella gwasanaethau i bawb.

  • Helpu ein staff i’ch gwasanaethu’n well

    Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod gan ein staff sgiliau digidol da. Mae gweithwyr y Cyngor yn gallu cael mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant, gan gynnwys sesiynau hygyrchedd ac ymwybyddiaeth ddigidol. Mae hyn yn helpu ein tîm i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy hygyrch i bawb yn ein cymuned.