Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan strategaethddigidolcaerdydd.co.uk.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: adborthgwefan@caerdydd.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Problem hygyrcheddMeini prawf WCAGNifer o broblemau
Anelwch at osod cyferbynnedd uchel iawn ar y testunWCAG 2.0 AAA 1.4.614
Gwnewch yn siŵr bod gan destun gyferbynnedd digonolWCAG 2.0 AA 1.4.312
Osgowch ddefnyddio’r un testun dolen ar gyfer gwahanol gyrchfannauWCAG 2.0 A 2.4.48
Gwnewch yn siŵr nad yw tudalennau yn sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bachWCAG 2.1 AA 1.4.108
Gwnewch yn siŵr bod cydrannau rhyngweithiol yn ddigon pell oddi wrth ei gilyddWCAG 2.2 AA 2.5.86
Ysgrifennwch restrau neu grwpiau o ddolenni yn semantigWCAG 2.0 A 1.3.16
Osgowch gysylltu ag angorau nad ydynt yn bodoliWCAG 2.0 A 2.4.14
Gwnewch yn siŵr bod dolenni’n egluro eu pwrpasWCAG 2.0 A 2.4.42
Gwnewch yn siŵr y gall darllenwyr sgrin ddefnyddio dolenniWCAG 2.0 A 4.1.21
Gwnewch yn siŵr bod penawdau ffeiliau PDF yn dilyn trefn resymegolWCAG 2.0 A 1.3.11

Dogfennau

​ Ar hyn o bryd, nid yw ein dogfen Safonau Gwasanaethau Digidol Cymraeg yn gwbl hygyrch gan nad oes ganddi Benawdau 2 priodol wedi’u tagio.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 24/12/2025.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 24/12/2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21/12/2025 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 24/12/2025.